Mis Iechyd Meddwl Dynion: pam mae’n bwysig i dadau

Mae dod yn dad yn un o’r newidiadau mwyaf ym mywyd dyn. Gall ddod â llawenydd, balchder ac ymdeimlad newydd o bwrpas. Gall hefyd ddod â chwsg toredig, pryderon newydd, pwysau yn y gwaith a gartref, ac ychydig o amser i chi eich hun. I lawer o dadau, mae’r teimladau hynny’n aros yn gudd.

Mis Tachwedd yw Mis Iechyd Meddwl Dynion, cyfle i siarad am sut mae dynion yn teimlo go iawn, ac i ddweud bod gofalu am eich iechyd meddwl yn rhan o fod yn rhiant da.

Pam mae iechyd meddwl tadau yn bwysig

Pan fydd tad yn teimlo’n isel, yn bryderus neu wedi’i lethu, gall effeithio ar y teulu cyfan, gan gynnwys ei les ei hun, ei berthynas â’i bartner a sut mae’n cysylltu â’i blant. Mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd. Pan fydd tadau’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn hyderus, mae teuluoedd yn ei deimlo hefyd. Dyma sut y dywedodd un tad a gefnogwyd gan Home-Start Cymru:

“Roedd yn gyfrinachol ac heb fod yn feirniadol, dim pwysau ac roedd y baich wedi cael ei dynnu oddi ar fy ysgwyddau. Fe wnaeth y gefnogaeth ddylanwadu ar y teulu cyfan, nid dim ond y person unigol dan sylw.”

Pam y gall tadau ei chael hi’n anodd gofyn am help

Mae llawer o dadau’n canfod bod yr un pethau’n eu rhwystro:

  • Teimlo y dylent fod y cryf, neu fwrw ymlaen
  • Cymorth sy’n aml wedi’i anelu at famau, yn enwedig o gwmpas yr enedigaeth a’r wythnosau cynnar, felly dydy tadau ddim yn gwybod i ble i fynd nac a yw ar eu cyfer nhw
  • Poeni am gael eu beirniadu, neu am wneud môr a mynydd o bethau
  • Prinder amser, rhwng gwaith, teulu a phopeth arall

Mae cymorth i dadau, yn enwedig yn y cyfnod amenedigol, yn dal yn gyfyngedig, ac mae agweddau tuag at ddynion ac iechyd meddwl yn golygu bod tadau’n aml yn grŵp na chlywir ei lais. Dyna pam rydym yn codi llais dros dadau yn ogystal â’u cefnogi.

Pethau bach a all helpu

Bydd rhai o’r rhain yn teimlo’n bosibl ac eraill ddim, ac mae hynny’n iawn. Dewiswch yr un sy’n gweithio heddiw.

  • Siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo
  • Symud eich corff, hyd yn oed gyda thaith gerdded fer
  • Amddiffyn eich cwsg lle gallwch
  • Cymryd egwyl o’r gwaith
  • Torri lawr ar alcohol ac amser sgrin pan allwch
  • Gofyn am help yn gynnar, cyn i bethau gronni

A byddwch yn garedig â chi’ch hun ar y dyddiau pan na allwch wneud yr un ohonynt.

Sut rydym yn cefnogi tadau

Yn Home-Start Cymru, rydym yn cynnig:

  • Cymorth emosiynol un i un i dadau sy’n teimlo dan straen neu â llai o hyder
  • Help i feithrin cwlwm a chreu perthynas gyda’u plant
  • Help i ddod o hyd i wasanaethau a’u llywio
  • Gweithgareddau grŵp a chymheiriaid, gan gynnwys ein prosiect yn Sir Benfro sy’n cyrraedd tadau newydd

Mae ein cymorth yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac yn ddi-farn, ac wedi’i lunio o gwmpas yr hyn sy’n bwysig i bob teulu.

Rydym hefyd yn gweithredu fel ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol ar Les Tadau a Gwydnwch Teuluoedd yn y Senedd, sy’n dod ag Aelodau o’r Senedd o bedair plaid wleidyddol a sefydliadau o lawer o sectorau ynghyd i edrych ar fylchau yn y cymorth i dadau.

Os ydych chi’n dad, neu’n adnabod un

Os ydych chi’n dad, does dim rhaid i chi aros nes bod pethau’n anodd iawn. Cysylltwch â ni i weld sut efallai y gallwn eich helpu: info@homestartcymru.org.uk neu 0333 880 0014. I gael mwy o gyngor, mae gan Dad Matters, sy’n rhan o rwydwaith Home-Start, flogiau i dadau: Dad Matters | Blogs

Os ydych chi’n adnabod tad, gofynnwch sut mae’n teimlo go iawn, a byddwch yn barod i wrando. Gall neges, taith gerdded neu baned olygu mwy nag y gwyddoch.

Os oes angen cymorth brys arnoch, mae Samaritans am ddim i’w ffonio ar 116 123. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Mae pob teulu’n mynd trwy gyfnodau anodd, ac mae tadau’n cyfrif hefyd.

Father with baby

Father with baby