Ni all yr un sefydliad greu newid ar ei ben ei hun. Dyna pam mae Home-Start Cymru yn gweithio’n agos gyda sefydliadau ledled Cymru i rannu dysgu, datblygu atebion ar y cyd a sicrhau bod profiadau teuluoedd yn llywio polisi ac ymarfer.

Ein Partneriaethau Strategol

Rydym yn cydweithio â phartneriaid cenedlaethol a lleol i wella canlyniadau i fabanod, plant a theuluoedd, gan gynnwys:

Achub y Plant
Rydym yn gweithio’n agos gydag Achub y Plant i wella canlyniadau i blant a theuluoedd ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys cysylltu teuluoedd â chymorth ariannol brys, rhannu tystiolaeth a chipolwg ar brofiadau teuluoedd, ac eiriol gyda’n gilydd ar faterion gan gynnwys tlodi plant, ymyrraeth gynnar a mynediad at natur. Mae gwaith ar y cyd wedi cynnwys ymgysylltu ynglŷn â Strategaeth Tlodi Plant Cymru a chynllun peilot taliad Cynnal.

Maternal Mental Health Alliance
Rydym yn gweithio gyda’r Maternal Mental Health Alliance i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl amenedigol ac eiriol dros well cymorth yn ystod y 1000 diwrnod cyntaf. Mae hyn wedi cynnwys cyfrannu at weithgareddau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau, cefnogi ymgyrch Midwives Go Miles a siarad yn gyhoeddus am fylchau yn y cymorth i deuluoedd ledled Cymru.

Cymru Ystyriol o Drawma
Cyfrannodd Home-Start Cymru dystiolaeth at ddatblygu Fframwaith Ystyriol o Drawma Cymru, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at ein hymagwedd ystyriol o drawma at gefnogi teuluoedd drwy ymarfer tosturiol sy’n seiliedig ar berthnasoedd.

Fframwaith NEST/NYTH
Bu i ni chwarae rhan weithredol wrth brofi a llunio proses hunanasesu NEST/NYTH, gan ddod â staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr ynghyd i roi adborth a helpu i gryfhau gweithrediad ymagwedd system gyfan y fframwaith at iechyd meddwl a lles plant.

Grwpiau a Rhwydweithiau:

Grŵp Trawsbleidiol ar Les Tadau a Gwydnwch Teuluoedd
Ers dechrau’r seithfed Senedd, rydym wedi buddsoddi amser mewn meithrin perthnasoedd cryf ag Aelodau o’r Senedd (ASau) i nodi eiriolwyr allweddol ar gyfer ein galwadau polisi. Drwy’r gwaith ymgysylltu hwn, mae sawl AS wedi ymrwymo i weithio gyda ni ar Grŵp Trawsbleidiol newydd ar Les Tadau a Gwydnwch Teuluoedd. Home-Start Cymru sy’n gweithredu fel ysgrifenyddiaeth i’r Grŵp Trawsbleidiol, sy’n dod â chwe Aelod o’r Senedd o bedair plaid wleidyddol ynghyd, yn ogystal â rhanddeiliaid o ystod eang o sectorau, i archwilio bylchau yn y cymorth i dadau a datblygu atebion sy’n gwella canlyniadau i fabanod, plant a theuluoedd.

Gweithgor y Fframwaith Ymyrraeth Gynnar ac Atal:
Rydym hefyd yn weithgar mewn is-grwpiau a ffrydiau gwaith achlysurol lle mae cyfleoedd yn codi i gydweithio ar ddarnau perthnasol o waith. Un enghraifft o hyn yw’r gweithgor aml-sector ar Ymyrraeth Gynnar ac Atal y bu i ni fod yn aelodau ohono, a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu fframwaith i ddarparu diffiniad cyffredinol ar gyfer Ymyrraeth Gynnar, a diffiniad ar gyfer Atal, y gellir eu haddasu ar draws sectorau.

Bwriad y fframwaith yw deall a diogelu gwasanaethau sy’n gyffredinol, sylfaenol, eilaidd ac wedi’u targedu lle bo angen pan fydd eu hangen ar fabanod, plant a phobl ifanc, ar yr adeg iawn, wedi’u darparu yn y ffordd iawn, fel rhan o gynnig llawn ledled Cymru. Roeddem yn rhan o’r broses o gyd-ddylunio’r fframwaith ochr yn ochr ag arweinwyr cymunedol, gwirfoddol a’r sector cyhoeddus ledled Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal, mae gennym rolau aelodaeth gweithredol yn y fforymau cydweithredol canlynol:

  • Grŵp Swyddogion Polisi Mudiadau Anllywodraethol Plant a Phobl Ifanc, dan gadeiryddiaeth Plant yng Nghymru
  • Bwrdd Iechyd Meddwl Amenedigol, Gweithrediaeth y GIG
  • End Child Poverty Network
  • Grŵp Cyfeirio’r Strategaeth Tlodi Plant, Llywodraeth Cymru
  • Grŵp Gweithredu Blynyddoedd Cynnar, Plant yng Nghymru
  • Fforwm Polisi CGGC
  • Cymuned Ymarfer NEST/NYTH
  • Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi
  • Grŵp Trawsbleidiol ar Famolaeth
  • Grŵp Trawsbleidiol ar Fabanod, Plant a Theuluoedd
  • Grŵp Trawsbleidiol ar y Sector Gwirfoddol