Mae ystod eang o wahanol bobl yn atgyfeirio teuluoedd atom ni am gymorth. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ymwelwyr iechyd, meddygon teulu, ymarferwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, yn ogystal â’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl, addysg, blynyddoedd cynnar a phrawf.
I wneud atgyfeiriad i Home-Start Cymru, cysylltwch â ni’n uniongyrchol.
Mae tua 8.4% o’r teuluoedd rydym yn eu cefnogi yn atgyfeirio eu hunain atom ni.
Rydym yn helpu teuluoedd â phlant ifanc trwy gyfuniad o gymorth ymweld â’r cartref, cymorth grŵp a gweithgareddau cymdeithasol. Rydym yn paru anghenion y teulu â gwirfoddolwyr hyfforddedig sy’n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol.
Mae ein cymorth yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac yn ddi-farn. Mae gwirfoddolwyr ymweld â’r cartref yn galw heibio bob wythnos, am ychydig oriau, cyhyd ag y bydd angen cymorth ar y teulu, neu hyd nes y bydd y plentyn ieuengaf yn troi’n bump oed neu’n dechrau addysg amser llawn.
Os ydych chi’n gweithio gyda theulu rydych chi’n meddwl y gallai elwa o’n cymorth ni, dylech chi:
- Drafod Home-Start Cymru gyda’r teulu – rhaid iddyn nhw gytuno i dderbyn cymorth.
- Mae’r rhan fwyaf o’n timau’n gweithio gyda theuluoedd â phlant o dan bump oed, er bod nifer gynyddol ohonom yn cefnogi teuluoedd â phlentyn ieuengaf yn hŷn na phump oed, felly cysylltwch â ni o hyd i drafod y teulu.
- Cysylltu â ni i gael gwybod am ein proses atgyfeirio.
Ar ôl i chi atgyfeirio teulu atom ni, byddwn ni’n:
- Trefnu ymweliad cychwynnol gyda’r teulu i drafod eu hanghenion
- Paru sgiliau a phrofiadau gwirfoddolwr yn ofalus ag anghenion y teulu
- Cyflwyno’r gwirfoddolwr i’r teulu
- Rhoi gwybod i chi pryd mae ein cymorth yn dechrau a gorffen
- Eich diweddaru ar gynnydd
- Monitro ac asesu eu cymorth
Ymholiadau Cyffredinol
info@homestartcymru.org.uk