Amdanom ni

Elusen Gymreig yw Home-Start Cymru (HSC) sy’n gweithredu’n genedlaethol ledled Cymru, ar hyn o bryd yn darparu gwasanaethau i rieni mewn 18 Awdurdod Lleol.

Credwn fod angen plentyndod hapus a diogel ar blant a bod rhieni’n chwarae rhan allweddol wrth roi dechrau da mewn bywyd i’w plant – gan eu helpu i gyflawni eu llawn botensial.

Mae teuluoedd yn ein gwahodd i’w cartrefi a’u bywydau fel y gallwn ffurfio perthnasoedd fel y gall ein gwirfoddolwyr cymheiriaid a staff arbenigol gynnig cymorth cyfrinachol, tosturiol, anfeirniadol. Mae hyn yn galluogi rhieni i ymgymryd â thaith barhaus o newid sy’n cynyddu eu llesiant eu hunain a llesiant eu teulu.

Rydym yn gweithio’n gyfannol gyda phartneriaid cymorth cymunedol eraill gan gynnwys ymarferwyr iechyd ac yn cynnig ystod o wasanaethau gyda’r nod o adeiladu teuluoedd a chymunedau cryfach a chreu amgylchedd mwy diogel i blant trwy raglenni yn y cartref neu mewn grŵp.

Yr hyn a wnawn

Rydym yn deall bod rhieni, weithiau, angen y cynnig o gymorth ac arweiniad anogol. Gall ychydig o help wneud byd o wahaniaeth, felly bydd ein gwirfoddolwyr hyfforddedig yn ymweld â chi yn eich cartref eich hun am rhwng dwy a thair awr yr wythnos i gynnig pâr ychwanegol o ddwylo neu glust i wrando.
Ac oherwydd bod pawb yn wahanol – a bod gan bob teulu eu hanghenion unigol unigryw eu hunain – byddwn yn gweithio gyda chi i ddarganfod beth sydd angen cymorth arnoch, ac yn teilwra ein hamser gyda chi i weddu i hynny. Gallwch hefyd fod yn dawel eich meddwl y bydd ein hamser gyda chi yn aros yn gyfrinachol.

Y Blynyddoedd Cynnar Hanfodol

Yn Home-Start Cymru, mae ein strategaeth yn rhoi pwyslais cryf ar gefnogi teuluoedd sydd â phlant yn ystod blynyddoedd cynharaf bywyd eu plentyn, gan gydnabod mai hwn yw’r cyfnod hanfodol i feithrin perthnasoedd diogel, gwytnwch a lles gydol oes. Trwy gefnogaeth dosturiol dan arweiniad gwirfoddolwyr, rydym yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd sydd â phlant ifanc i’w helpu i ymdopi â heriau magu plant, cryfhau’r berthynas rhwng rhiant a phlentyn, a chreu amgylcheddau cartref cadarnhaol lle gall plant ffynnu. Mae mwy na hanner (52%) y teuluoedd rydym yn eu cefnogi yn cynnwys o leiaf un plentyn o dan bump oed, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i ymyrraeth gynnar ac atal problemau rhag gwaethygu.

Mae ein heffaith yn glir:

  • Mae 88% o rieni yn nodi gwell lles emosiynol a llai o unigedd.
  • Mae 99% yn teimlo’n fwy hyderus yn eu sgiliau magu plant.
  • Mae 76% yn teimlo’n fwy cysylltiedig â’u cymunedau.

Mae perthnasoedd teuluol yn gwella i 94% o’r rhai rydym yn eu cefnogi, tra bod 93% o blant yn profi gwell lles emosiynol.

Mae rhieni hefyd yn nodi mwy o hyder wrth reoli ymddygiad (61%), ynghyd â gwelliannau mewn parodrwydd ar gyfer yr ysgol (67%), datblygiad lleferydd ac iaith (75%), a chanlyniadau iechyd (100% lle nodwyd angen).

Gyda’i gilydd, mae’r canlyniadau hyn yn dangos sut mae cefnogaeth gynnar sy’n adeiladu ar gryfderau yn helpu teuluoedd i greu’r sylfeini sydd eu hangen ar bob plentyn ar gyfer dyfodol iach, hapus a llwyddiannus.

Canolbwyntio ar Ardaloedd o’r Angen Mwyaf

Lle bo modd, mae Home-Start Cymru yn targedu ei chefnogaeth tuag at deuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd o’r angen mwyaf, gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) i lywio ein cyrhaeddiad. Mae’r MALlC yn graddio ardaloedd daearyddol bach, a elwir yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI), yn seiliedig ar ffactorau megis incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, tai a mynediad at wasanaethau, gan helpu i nodi cymunedau sy’n profi’r lefelau uchaf o anfantais. Drwy ganolbwyntio ar deuluoedd sy’n byw yn yr ACEHI mwyaf difreintiedig — yn enwedig mewn awdurdodau lleol mwy poblog lle mae’r angen mwyaf, gan gynnwys ardaloedd megis Caerdydd, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe — rydym yn sicrhau bod ein cefnogaeth yn cyrraedd y rhai sy’n elwa fwyaf ar ymyrraeth gynnar.

Adlewyrchir y dull targedig hwn yn ein gwaith cyflenwi:

  • Mae 51% o’r teuluoedd rydym yn eu cefnogi sydd â phlentyn o dan bump oed yn byw yn yr 20% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Drwy flaenoriaethu’r cymunedau hyn, rydym yn gallu lleihau anghydraddoldebau, cryfhau gwytnwch a gwella canlyniadau i blant a theuluoedd a allai fel arall wynebu’r rhwystrau mwyaf i ffynnu.

A Home-Start Cymru volunteer spending time with a mother and two children.

Cryfhau eich perthynas gyda'ch plentyn neu blant.

Teimlo'n llai unig ac ynysig trwy argymell gwasanaethau a grwpiau lleol.

Cyfarfod â phobl eraill sydd yn yr un cwch trwy eich helpu i wneud cysylltiadau newydd.

Dysgu sgiliau magu plant newydd - mae gennym ni awgrymiadau a thriciau gwych!

Home-Start Cymru volunteer with two children in a park.

Gwella iechyd corfforol ac emosiynol eich plentyn.

Dewch yn Wirfoddolwr Home-Start Cymru Heddiw

Mae tîm o wirfoddolwyr hyfforddedig Home-Start Cymru yn sicrhau bod blynyddoedd cynnar plentyn yn cyfrif. Trwy wirfoddoli dim ond ychydig oriau bob wythnos gallwch drawsnewid bywydau plant ifanc a’u rhieni yn eich cymuned.

Helpwch ni i gefnogi rhieni ledled Cymru

Areas we cover

Gogledd

Ynys Mon

Denbighshire

Gwent

Casnewydd

Torfaen

Caerffili

Blaenau Gwent

Caerdydd a'r Fro

Caerdydd (yn amodol ar ardal)

De Cymru

Merthyr Tydfil

Rhondda Cynon Taf

Penybont

Gorllewin Cymru

Sir Gaerfyrddin

Sir Benfro

Bae Abertawe

Abertawe

Neath Port Talbot

Canolbarth Cymru

Powys

Cefnogi Teuluoedd Ledled Cymru

Rydym yn gweithio ar draws 18 awdurdod lleol yng Nghymru ochr yn ochr â Home-Start Cymreig eraill sydd wedi’u lleoli yng Ngheredigion, Conwy, Sir y Fflint a Wrecsam. Rydym yn gweithio o fewn rhwydwaith sy’n cefnogi pob teulu ledled Cymru. Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech gysylltu â Home-Start Cymru lleol, cysylltwch â info@homestartcymru.org.uk

 

Home-Start Ceredigion logo.

Home- Start Ceredigion

Mae Home-Start Ceredigion yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim a chymorth ymarferol i rieni plant ifanc sy’n byw yn sir Ceredigion sy’n mynd drwy gyfnod anodd.

Ffôn: 01570 218546

E-bost: homestartaberaeron@gmail.com

Home-Start Flintshire logo.

Home-Start Flintshire

Mae Home-Start Sir y Fflint yn fudiad gwirfoddol sy’n cefnogi teuluoedd yn Sir y Fflint sydd ag o leiaf un plentyn dan 11 oed. Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, gallwch gysylltu â nhw ar:
Ffôn: 01352 744060
E-bost: admin@home-startflintshire.org.uk
Gwefan: home-startflintshire.org.uk
Home-Start Wrexham logo.

Home-Start Wrexham

Mae Home-Start Sir y Fflint yn fudiad gwirfoddol sy’n cefnogi teuluoedd yn Sir y Fflint sydd ag o leiaf un plentyn dan 11 oed. Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, gallwch gysylltu â nhw ar:
Ffôn: 01352 744060
E-bost: admin@home-startflintshire.org.uk
Gwefan: home-startflintshire.org.uk