Mae Home–Start Cymru yn cynnig cymorth sy’n newid bywyd i deuluoedd â phlant ifanc i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael y cyfle i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Yn syml, rydyn ni yno i rieni pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf, oherwydd ni all plentyndod aros.

Yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd plentyn, gallwn gael yr effaith fwyaf, mae Home-Start Cymru yn helpu i adeiladu’r sylfeini hyn i roi’r dyfodol gorau posibl i blant.

Mae bod yn rhiant yn gallu bod yn unig ac yn heriol iawn ar brydiau, yna pan fydd digwyddiadau sy’n newid bywyd hefyd yn dod i’r gymysgedd gall bod yn rhiant fod yn anodd iawn.

Mae staff arbenigol Home-Start Cymru a gwirfoddolwyr hyfforddedig yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i roi cymorth personol anfeirniadol, tosturiol a chyfrinachol. Rydym yno i gynnig cefnogaeth emosiynol gyda chlust i wrando a chymorth ymarferol i gael mynediad at wasanaethau eraill. Gyda chefnogaeth gyfeillgar gwirfoddolwr sy’n ymweld â’r teulu gartref, gall rhieni a gofalwyr ailadeiladu eu hyder a goresgyn rhwystrau i ynysu cymdeithasol.

Rydym yn gallu cefnogi rhieni i fod y rhiant gorau y maent am fod. Gallwn weithredu fel pont, gan ddarparu gwybodaeth ac arweiniad, a chysylltu teuluoedd â rhwydweithiau cymorth megis gwasanaethau iechyd, ysgolion, a phrosiectau cymunedol lleol.

Yn ogystal â’n cefnogaeth graidd, rydym yn cynnig cefnogaeth arbenigol trwy brosiectau ychwanegol amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys mewn rhai meysydd:

Cefnogaeth niwrogyfeiriol

Rydym yn darparu cefnogaeth 1:1 wedi’i thargedu a arweinir gan staff i deuluoedd ar y llwybr niwroddargyfeiriol, gan gynnwys cymorth parhaus gan grwpiau cyfoedion. Mae gwybodaeth yn cael ei rhannu â theuluoedd yn ogystal â chyfeirio at wasanaethau presennol am gymorth mwy arbenigol.

Rheoli Ymddygiad

Mae staff cymwys yn cyflwyno sesiynau wedi’u targedu i gefnogi rhieni i ddeall heriau ymddygiad eu plentyn ac archwilio ffyrdd o’i reoli. Darperir sesiynau gyda’r rhiant a’r plentyn.

Grwpiau Cefnogi Cyfoedion

Rydym yn hwyluso sesiynau cymorth grŵp lle mae teuluoedd yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau, ac yn adeiladu cysylltiadau cymdeithasol. Mae’r grwpiau hyn yn mynd i’r afael â phynciau neu heriau penodol, gan ganiatáu i rieni ddysgu oddi wrth ei gilydd a darparu cefnogaeth i’w gilydd.

Ffoaduriaid/Ceiswyr Lloches

Rydym yn cynnig cefnogaeth staff 1:1 i deuluoedd sy’n ceisio noddfa. Cefnogir teuluoedd i nodi rhwydweithiau cymorth yn eu cymunedau, adeiladu perthnasoedd ehangach ac iach a chefnogi eu plant i drosglwyddo i addysg. Cynigir cefnogaeth barhaus gan wirfoddolwyr.

Tai a Chymorth Ariannol

Prosiect penodol i gefnogi teuluoedd gyda heriau tai, yn ogystal â chefnogi gyda’r mwyafu ariannol. Darperir cymorth gan staff hyfforddedig.

Dads Matter

Gan gefnogi tadau gyda phlant yn ystod y cyfnod amenedigol, rydym yn annog ymlyniad a bondio ac adeiladu perthnasoedd iach gyda babanod newydd-anedig.

Cyfathrebu Blynyddoedd Cynnar

Mae ein staff cymwys yn cynnig sesiynau wedi’u targedu i gefnogi cyfathrebu, meithrin perthnasoedd iach a chefnogi rhieni i ddeall y ffordd orau o ddiwallu anghenion eu plant cyn oed ysgol.

ResponsivePics errors
  • image id is undefined