Yn Home-Start Cymru rydyn ni’n credu mewn dynoliaeth a chydraddoldeb, dyna pam rydyn ni’n darparu cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Gwyddom ei bod yn ddigon anodd ffoi o’ch gwlad eich hun ac ymgartrefu yn y DU. Felly dyna pam mae ein haelodau staff yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd llywio’r system. Mae ein prosiect yn darparu cyngor a chefnogaeth ar wasanaethau (fel tai, budd-daliadau, iechyd, cyflogaeth a sgiliau Saesneg), gan weithio gyda phob ffoadur ar gynllun wedi’i deilwra tuag at annibyniaeth ac integreiddio.

Sut rydym yn helpu?

Rydym yn helpu ffoaduriaid i ailadeiladu eu bywydau gan ddefnyddio’r gwytnwch, y cryfder a’r sgiliau a enillwyd ar eu teithiau. Rydym yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol ac yn helpu teuluoedd i ddeall arferion lleol, a chael mynediad at ofal iechyd ac addysg. Ac rydym yn eu helpu i gwrdd â phobl leol a magu hyder ac annibyniaeth.

Rydym yn helpu i setlo teuluoedd yn eu cartrefi a’u cymunedau newydd drwy ddarparu:

• cyngor a chymorth ar hawliau:

• cymorth i gael mynediad at wasanaethau tai, gwasanaethau iechyd ac addysg

• cefnogaeth gydag integreiddio cymdeithasol

• cymorth i agor cyfrif banc

• cofrestriad Meddyg Teulu

• cofrestru ysgol

• cyfeirio at weithgareddau lleol

Os ydych yn ardal Casnewydd ac yn ffoadur neu’n geisiwr lloches, cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu, neu eich cefnogi i siarad â rhywun sy’n gallu: seekingsanctuary@homestartcymru.org.uk