Ynghylch y prosiect

Ydych chi’n chwilio am gefnogaeth i fynd i’r afael â: tai – unrhyw faterion sy’n ymwneud â heriau y gallech fod yn eu profi gyda’ch sefyllfa dai. rheoli eich arian – cymorth i gael mynediad at y budd-daliadau cywir a sicrhau bod gan eich teulu bopeth y mae ganddynt hawl iddo. Gall cael tenantiaeth sicr a sicrwydd ariannol ein harwain i deimlo’n fwy hyderus yn ein rôl fel rhieni, archwilio cyfleoedd i gael mynediad at hyfforddiant a/neu gyflogaeth yn ogystal ag ehangu ein rhwydweithiau cymorth yn ein cymunedau ein hunain.

Sut rydym yn cefnogi

Mae ein Cydlynwyr yn gweithio gyda theuluoedd unigol i sicrhau bod eu sefyllfa dai yn ddiogel a bod y teulu yn derbyn yr holl fudd-daliadau angenrheidiol ac ati. Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer ceisiadau tai, grantiau priodol a galluogi’r teulu i fynd i’r afael ag unrhyw heriau dyled. Rhaid gwneud cyfeiriadau yn uniongyrchol at yr e-bost isod a byddant yn cael eu dyrannu i HSC o dan y prosiect Cefnogi Pobl yn: caerphillyconnect@caerphilly.gov.uk