Oherwydd gallwch chi ein helpu i newid bywyd teulu.

Rydym am weld cymdeithas lle mae pob rhiant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’w plant.

Ni fu ein gwaith erioed mor bwysig. Rydym yn estyn allan at rieni’n gynnar drwy ddarparu cymorth gwirfoddol pan fo angen, gan rymuso rhieni i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwytnwch i alluogi eu plant i ffynnu.

Heb godwyr arian angerddol fel chi, ni fyddai Home-Start Cymru yn gallu gwneud y gwaith rydym yn ei wneud. Bydd yr arian a godwch yn ystod eich gweithgaredd codi arian yn galluogi ein staff a gwirfoddolwyr i gefnogi teuluoedd yng Nghymru.

Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i’n helpu i gynyddu ein cyrhaeddiad a chreu effaith gadarnhaol i deuluoedd yma yng Nghymru. Rydyn ni yno i roi cymorth emosiynol ac ymarferol i rieni a’u plant, a’u harwain yn emosiynol ac yn ymarferol trwy heriau bywyd – beth bynnag y bônt.

Mae pob ceiniog a godwch, yr eitemau rydych yn eu rhoi a’r amser rydych yn gwirfoddoli yn ein helpu i fod yno i deuluoedd a sicrhau bod eu plant yn cael y cyfle gorau i ffynnu.

Rydym bob amser yn chwilio am bobl a hoffai godi arian i ni.

Mae rhedeg marathonau neu gwisiau yn rhai o’r ffyrdd y gallwch ein helpu i ddarparu cyfeillgarwch a chyngor hanfodol i deuluoedd pan fydd ei angen arnynt.

Byddem wrth ein bodd pe baech yn codi arian i ni.

Codwch arian sut yr hoffech chi, pan fynnwch, ein helpu ni i godi arian fel y gallwn barhau â’n gwaith i ddarparu cyfeillgarwch, cefnogaeth, a chymorth ymarferol i rieni a’u plant mewn sefyllfaoedd anodd.

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Edrychwch ar ein syniadau codi arian isod neu cysylltwch â’n tîm am gyngor ar fundraising@homestartcymru.org.uk.

ResponsivePics errors
  • image id is undefined

Dywedwch wrthym am eich digwyddiad codi arian

A oes gennych chi ddigwyddiad codi arian yn yr arfaeth yn barod? Byddem wrth ein bodd yn clywed amdano. Gall ein tîm codi arian eich cefnogi bob cam o’r ffordd a byddwn hyd yn oed yn anfon pecyn codi arian am ddim atoch!