Mae Home-Start Cymru yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Mae ein gwasanaethau’n cefnogi teuluoedd sydd â phlant.

Mae Home-Start Cymru wedi ymrwymo i warchod hawliau a rhyddid unigolion yn unol â darpariaeth GDPR. Byddwn yn cydymffurfio’n llawn â gofynion GDPR ac yn dilyn y gweithdrefnau sy’n ceisio sicrhau bod gan bawb sydd â mynediad i unrhyw fanylion personol a gânt eu cadw gan neu ar ran Home-Start yn llwyr ymwybodol o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau ac yn eu dilyn yn unol â’r ddeddfwriaeth.

Sicrhawn y bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu iawn pa ‘run bynnag ffordd y caiff ei chasglu, ei chadw neu ei phrosesu fel arall; ar bapur, mewn cofnodion cyfrifiadurol neu unrhyw ddull arall. Cedwir gwybodaeth gywir, gymesur a chyfredol er mwyn sicrhau fframwaith da o gefnogaeth a goruchwyliaeth i wirfoddolwyr, gweithwyr cyflogedig ac i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol cyflogaeth, elusennol a busnes.

Pynciau a drafodir yn y Rhybudd hwn:

  • Pa wybodaeth amdanoch ydym yn ei chasglu?
  • Sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth amdanoch?
  • Gyda phwy fyddwn yn rhannu’r wybodaeth?
  • Sut mae’r wybodaeth yn cael ei storio a’i chadw’n ddiogel?
  • Marchnata
  • Mynediad i wybodaeth amdanoch a chywiro.

Datganiad yw’r Rhybudd Preifatrwydd hwn i deuluoedd, eu partneriaid, plant dros 16 oed, defnyddwyr gwasanaethau, y cyhoedd, rhanddeiliaid, staff a gwirfoddolwyr ac sy’n egluro sut ydym yn casglu, defnyddio a rhannu gwybodaeth sydd yn cael ei dal gennym.

Pa wybodaeth amdanoch ydym yn ei chasglu?

Ar ôl i chi gofrestru i ddefnyddio unrhyw un o’n gwasanaethau a phan fyddwch yn derbyn ein gwasanaethau, byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi ac aelodau o’ch teulu. Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch pan fyddwch, o’ch gwirfodd yn llenwi arolwg, cyflwyno adborth a chymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol. Bydd yr wybodaeth a gasglwn yn cynnwys manylion personol a sensitif.

Gall y cofnodion hyn gynnwys yr wybodaeth ganlynol sy’n berthnasol i chi, eich partner a’r plant yn eich gofal ogystal ag unrhyw un arall ar eich aelwyd:

  • Gwybodaeth sylfaenol fel enw, cyfeiriad, rhif ffôn, dyddiad geni, perthynas agosaf, Meddyg Teulu ac Ymwelydd Iechyd
  • Y cyswllt rhyngom ac ymweliadau cartref
  • Gwybodaeth gan bobl sy’n ymwneud â’ch teulu, e.e., ysgolion, gweithwyr iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a pherthnasau.
  • Gall yr wybodaeth am blant gynnwys ysgolion neu feithrinfeydd y buont yn eu mynychu.
  • Incwm a manylion ariannol
  • Manylion a chofnodion o driniaethau a meddyginiaethau

Gall hefyd gynnwys gwybodaeth bersonol sensitif fel rhywioldeb, hil, eich ffydd neu grefydd ac os oes gennych unrhyw anabledd, Anghenion Addysgol Arbennig neu gyflyrau iechyd.

Mae’n bwysig ein bod yn cael y darlun yn llawn gan fod yr wybodaeth o gymorth i staff ddarparu a chyflenwi’r gofal mwyaf pwrpasol i ateb eich anghenion.

Cesglir gwybodaeth drwy nifer o ddulliau; gall manylion atgyfeiriadau ddod gan eich ymwelydd iechyd neu weithiwr cymdeithasol proffesiynol, gwasanaethau statudol, sefydliadau’r sector gwirfoddol, o ysgolion neu’n uniongyrchol gennych chi.

Defnyddio Cwcis

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Os ydych yn defnyddio’r wefan hon byddwch wedi derbyn y rhybudd cwcis y tro cyntaf i chi ymweld â’r wefan.

Beth yw cwcis? Mae cwcis yn ffeiliau testun bychain sy’n cael eu trosglwyddo i’ch cyfrifiadur gan wefannau rydych wedi ymweld â nhw.

I ddysgu mwy am gwcis gallwch ymweld â’r wefan hon sydd ag erthygl amdanynt:: https://en.wikipedia.org/wiki/Computer_cookie 

Mathau o Gwcis
Mae dau fath o gwcis a ddefnyddir gan weinyddion gwe, cwcis ‘parhaus’ a chwcis ‘sesiwn’. Mae cwcis parhaus yn aros ar eich cyfrifiadur ac yn dod i ben ar ddyddiad penodol oni bai eu bod yn cael eu diweddaru neu eu dileu oddi ar eich system. Maent yn cael eu defnyddio i gadw gwybodaeth am eich dewisiadau. Mae’r ail fath, y cwci sesiwn yn aros ar eich cyfrifiadur nes byddwch yn cau eich porwr gwe.

Cael gwared â chwcis

Gallwch ddod o hyd i sut mae atal a chael gwared â chwcis oddi ar eich cyfrifiadur drwy edrych ar ddewisiadau’r porwr gwe rydych yn ei ddefnyddio. Mae pob porwr yn cynnig y gallu i atal neu ddileu cwcis. Mae darparu gwybodaeth am bob porwr gwe ac ar bob dyfais, y tu allan i sgôp yr erthygl hon. Chwiliwch drwy ganllaw eich porwr gwe neu ddyfais symudol i ddysgu mwy am atal neu ddileu cwcis oddi ar eich system.

Y cwcis a ddefnyddiwn

Google Analytics: Mae’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth ar sut mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan, er enghraifft pa dudalennau mae ymwelwyr yn ymweld â nhw amlaf, os ydynt yn cael neges am wall ar dudalennau ai peidio ac am beth y buont yn ei chwilio ar y wefan. Nid yw’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy. Mae’r wybodaeth a gesglir gan y cwcis hyn yn gyfansymiol ac felly’n anhysbys.

Mae’r data hwn o gymorth i ni ddeall:

  • Pa dudalennau ar y wefan mae pobl yn ymweld â nhw
  • Pa borwyr gwe sy’n cael eu defnyddio
  • Beth ar y wefan sy’n boblogaidd

Mae mwy o wybodaeth am gwcis Google ar eu polisi preifatrwydd yma: https://www.google.com/intl/en/policies/privacy/ . Yn eich porwr gallwch hefyd osod Google Analytics Opt-out Tools, sef teclynnau dewis peidio: httpss://tools.google.com/dlpage/gaoptout

Google maps: Cwcis sesiwn yw’r rhain sy’n cofio dewisiadau sydd gennych wrth edrych ar fap ar wefan.

WordPress: Mae’r wefan wedi ei chreu â WordPress sy’n defnyddio nifer o raglenni ategol. Mae rhai o’r ategion hyn yn defnyddio cwcis gyda rhai ohonynt yn gwcis parhaus syn cofio dewisiadau a wnaethoch ar y wefan. Cwcis sesiwn yw’r gweddill sy’n dod i ben pan fyddwch yn cau’r porwr.

Cwcis trydydd-parti: Nid ydym yn defnyddio unrhyw gwcis drwy drydydd-bartïon ar gyfer hysbysebu neu i wthio cynnwys hysbysebu i’ch cyfeiriad. Gwefan rydd o hysbysebion yw hon.

Beth sy’n digwydd os nad ydwyf yn derbyn cwcis ar fy nheclyn pori? Heb fod cwcis yn weithredol gall ambell beth ar y wefan beidio â gweithio’n iawn neu gallwch weld dirywiad yn ymarferoldeb y wefan.

Sut byddwn i’n defnyddio’r wybodaeth amdanoch a gasglwyd gennym?

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch i asesu eich anghenion, amcanion penodol, blaenoriaethau, i ddyrannu gwasanaethau a phario gwirfoddolwyr.

Sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth amdanoch:

  • I helpu i wneud penderfyniadau am eich cefnogaeth
  • I sicrhau bod y gwasanaethau a chefnogaeth y derbyniwch yn ddiogel ac yn effeithiol
  • I feithrin amcanion ac i asesu risg
  • I weithio’n effeithiol gyda sefydliadau eraill cysylltiedig
  • I adolygu’r gefnogaeth a roddwyd i sicrhau ei bod o’r safon uchaf posib.
  • I baratoi ystadegau a gwerthuso perfformiad sefydliadol.

Hwyrach y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â:

Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yr awdurdod lleol, gwasanaethau statudol, eich gwirfoddolwr penodol, y sefydliad a’ch hatgyfeiriodd ynghyd â chyrff rheoli eraill.

Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd-bartïon heb eich caniatâd penodol chi, oni bai fod amgylchiadau eithriadol yn codi, e.e., pan mae iechyd neu ddiogelwch eraill yn y fantol neu os yw’r gyfraith yn gofyn am ddatgelu’r wybodaeth.

Fel rhan o sut y cawn ein hariannu byddwn o bosib angen rhannu gwybodaeth ystadegol a chyffredinol o’ch cofnodion â sefydliadau eraill a chyrff ariannu.

Caiff yr wybodaeth ei gwneud yn anhysbys i sicrhau na fydd modd i neb wybod pwy ydych chi.

Hwyrach y gofynnir i ni rannu gwybodaeth elfennol amdanoch chi, fel eich enw, rhan o’ch cyfeiriad, gwybodaeth nad yw’n cynnwys manylion sensitif. Ni fyddwn yn gwneud hynny fel arfer oni bai ei fod yn gymorth i’r trydydd-parti gyflawni eu dyletswyddau statudol. Mewn achos o’r fath, pan nad yw’n ymarferol i ni gael eich caniatâd penodol, rydym yn eich hysbysu drwy’r rhybudd hwn, a gyfeirir ato fel Rhybudd Preifatrwydd dan y Ddeddf Diogelu Data.

Sut mae’r wybodaeth yn cael ei storio a’i chadw’n ddiogel?
Caiff gwybodaeth ei chadw mewn cofnodion diogel yn electronig ac ar bapur,  gyda mynediad iddi wedi ei gyfyngu i’r rheiny sydd angen ei gweld yn unig. Mae nifer o ddulliau sut y gwarchodir eich preifatrwydd – glynu wrth amodau cytundebol caeth a sicrhau bod trefniadau caeth rhannu a phrosesu yn cael ei gweithredu. Mae technoleg yn caniatáu i ni warchod gwybodaeth mewn sawl ffordd, yn bennaf drwy nacáu mynediad. Ein hegwyddor arweiniol yw ein bod yn cadw eich manylion yn hollol gyfrinachol. Dim ond ar gyfer dibenion yr ydych chi wedi rhoi caniatâd iddo y caiff gwybodaeth sydd wedi ei roi i ni’n gyfrinachol ei defnyddio, oni bai fod amgylchiadau eraill a reolir gan y gyfraith.

Marchnata
Hoffem gadw cysylltiad â chi am y gwaith hanfodol yr ydym yn ei wneud i deuluoedd, ein hymgyrchoedd codi arian a’r cyfleoedd sydd gael i’n cefnogi. Dim ar unrhyw gyfrif y byddwn yn gwerthu eich manylion ac rydym yn addo eu cadw’n gwbl ddiogel.

Mynediad i wybodaeth amdanoch a chywiro

Dan reolau GDPR caiff unrhyw un wneud cais am fynediad at wybodaeth (gydag ambell eithriad) a gedwir amdanynt gan sefydliad.

Mae gennych yr hawl, unrhyw bryd, i wrthod neu dynnu eich caniatâd yn ei ôl. Mae gennych yr hawl i gael eich anghofio, neu i’ch cofnodion gael eu tynnu’n ôl.

I gael rhagor o fanylion ar sut mae cael gafael ar yr wybodaeth amdanoch chi, a gedwir gennym ni, neu i dynnu eich caniatâd yn ôl i ni gadw/rhannu’r wybodaeth cysylltwch â

Pannaeth Diogelu Data

Ystafell A, Adeilad y Goron
Stryd y Neuadd
Rhydaman
Sir Gâr
SA18 3BW

Ffôn: 01269 593853

Ebost: info@homestartcymru.org.uk