Sian Taylor

Mae Sian wedi ymddeol yn ddiweddar ar ôl gyrfa 40 mlynedd mewn nyrsio, a threuliwyd y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio fel ymwelydd iechyd, gan gynnwys gweithio fel athrawes ymarfer gymunedol, arweinydd tîm ac arweinydd bwydo babanod.  Yn y rôl hon gwelodd dros ei hun yr effaith a gafodd gwirfoddolwyr Home-Start Cymru ar deuluoedd wrth weithio gyda nhw – mae magu plant yn medru bod yn heriol, ac mae angen help llaw  ychwanegol ar bob un ohonom o bryd i’w gilydd. 

Ers ymddeol a symud i Dde Cymru, mae Sian wedi derbyn hyfforddiant ac yn gweithio fel gwirfoddolwr Home-Start Cymru.

Sian Taylor headshot.