Liam Maguire

Dechreuodd Liam weithio yn y gwaith dur a rheoli clwb ieuenctid lleol ar yr un pryd â astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.

Ar ôl gorffen yn y brifysgol, comisiynodd o’r Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst, a, fel Capten yn y Royal Welsh, arweiniodd ei Platŵn ar weithrediadau cadw heddwch yn Afghanistan.

5 mlynedd yn ddiweddarach gadawodd y Fyddin a dechreuodd reoli cartrefi plant, gan gynnwys yr unig ganolfan ddiogel yng Nghymru, ac yn ystod y cyfnod hwn bu’n gweithio gyda thîm clinigol llawn, gweithwyr cymdeithasol, athrawon a hyd yn oed y comisiynydd plant i helpu i gefnogi’r plant mwyaf cymhleth yn y DU.

Yn 2021 ymunodd Liam â HSC fel Pennaeth Gweithrediadau a chyfranodd at y gwaith o gefnogi darparu gwasanaethau, perfformiad cydweithiwr a llesiant. Yn 2022 gadawodd i ddechrau fel Hyfforddwr Rheoli Arweinyddiaeth mewn Cymdeithas Tai o’r enw Cymoedd i’r Arfordir lle roedd yn brysur yn dylunio a chyflwyno fframweithiau ymddygiad a rhaglenni hyfforddi, ond arhosodd yn Ymddiriedolwr efo HSC ar hyd yr amser.

Mae Liam bellach wedi ailymuno â HSC fel ein Cyfarwyddwr Pobl a Gweithrediadau ac mae’n “edrych ymlaen yn fawr iawn at y cyfle o weithio’n fwy uniongyrchol gyda hen ffrindiau unwaith eto ar waith mor bwysig”.

Mae Liam hefyd yn ymddiriedolwr efo Plant yng Nghymru, sef y brif sefydliad cenedlaethol sy’n eiriol dros hawliau plant gyda Llywodraeth Cymru, tra hefyd yn darparu hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar y plentyn i lawer o wasanaethau ledled Cymru. Yn ddiweddar iawn mae Liam hefyd wedi cael ei benodi’n aelod panel cynghori i’r Comisiynydd Plant am y 3 blynedd nesaf.

Mae diddordebau Liam yn cynnwys seicoleg, yn enwedig o safbwynt llesiant a datblygiad plant. Mae Liam yn  credu’n gryf ym mhwysicrwydd reoli arweinyddiaeth, a hyrwyddo hawliau plant a diogelu, a’r mecanweithiau gwleidyddol a chymdeithasol sy’n cefnogi hyn.

Mae Liam yn credu’n gryf mai’r “lle pwysicaf mewn unrhyw gymdeithas, traws-genhedlaeth, a thrawsddiwylliant, yw tu mewn i gartref y teulu, ac mai’r bobl bwysicaf a’r rhan mwyaf gwerthfawr o fewn unrhyw gymdeithas, yw ei phlant a’i rhieni”.

Mae hefyd yn credu yn y dyfyniad gwych a pherthnasol iawn gan Jonathan Bowlby “Os yw cenedl yn gofalu am ei phlant, bydd yn coleddu ei rhieni.” – pa ffordd gwell o dynnu sylw at bwysigrwydd HSC!