Jonathan Richards

Daeth Jonathan Richards i Gymru ym 1973 i hyfforddi i fod yn feddyg a gweithiodd ym Merthyr Tudful o 1981 i 2015 fel meddyg teulu. Roedd yn Gyfarwyddwr Clinigol dros Gwm Cynon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf o 2010-2016, yn ymwneud â chefnogi’r Trydydd Sector, integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ansawdd a diogelu. Tua diwedd y 1990au bu’n Is-gadeirydd Grŵp Cynghori Diabetes UK Cymru am rai blynyddoedd. Mae’n Athro Allanol Gofal Sylfaenol ym Mhrifysgol De Cymru (Glyn Taf) ers 1997.

Mae wedi ymddiddori’n arbennig yn y cysylltiadau rhwng iechyd a thlodi ers dechrau cyhoeddi’r ymchwil yng nghanol y 1990au. Clywodd yr Athro Syr Michael Marmot yn siarad yn 2012 a sylweddolodd ei fod yn disgrifio ymddygiadau oedd yn cynyddu’r peryglon y byddai pethau drwg yn digwydd, nid yn stigmateiddio pobl. Roedd ei brofiadau fel meddyg teulu wedi ei addysgu am gymhlethdodau datglymu’r berthynas rhwng elfennau sy’n penderfynu iechyd a llesiant, ymddygiadau, diwylliant, gwytnwch personol a phwysigrwydd cwrdd â phobl lle y maent, a’u cefnogi mewn ffyrdd sy’n eu galluogi i wneud y newidiadau a’r dewisiadau sy’n helpu gwella perthynas, iechyd a llesiant.

Penderfynodd ei fod eisiau gwneud rhywbeth am y materion hyn, yn enwedig cefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plant, unwaith yr oedd wedi ymddeol o’r GIG yn 2017. Argymhellwyd Home-Start iddo fel Elusen effeithiol oedd yn gwneud gwahaniaethau mawr i rieni a theuluoedd. Cysylltodd, a chanfod yn syth fod y staff a’r gwirfoddolwyr yn bobl eithriadol, yn ddoeth a llawn cydymdeimlad ac yn angerddol dros wneud gwahaniaeth go iawn.