Helen Howson

Helen yw Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan ac Academi Comisiwn Bevan. Chwaraeodd ran flaenllaw yn sefydlu’r Comisiwn ac yn ei raglen waith heriol, yn enwedig Gofal Iechyd Darbodus.

Chwaraeodd Helen ran yn sefydlu Academi Bevan, Arloeswyr Bevan a rhaglenni trawsnewid, gan helpu troi’r syniadau’n weithredu.

Cyn hyn bu’n Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae wedi arwain adolygiad Gweinidogol mawr o ymyriadau gwella iechyd ar draws Cymru.

Cyn hynny bu Helen mewn nifer o swyddi uwch o fewn Polisi a Strategaeth Iechyd Llywodraeth Cymru, yn fwyaf diweddar yn arwain yr Uned Strategaeth Iechyd Sylfaenol a Chymunedol.

Mae Helen wedi gweithio fel cynghorydd gyda Sefydliad Iechyd y Byd ac mae hefyd wedi cynghori Llywodraethau yn Rwsia, Sbaen, Seland Newydd ac eraill ar bolisi iechyd.

Bu Helen yn dysgu am rai blynyddoedd ar gwrs meistr Sefydliad Iechyd y Byd ym Mhrifysgol Karolinska yn Sweden ac ym Mhrifysgol Bryste fel Cyfarwyddwr rhaglen Arweinyddiaeth ôl-radd i glinigwyr.