Catriona Williams OBE

Ymddeolodd Catriona yn ddiweddar o’i swydd fel Prif Weithredwr Plant yng Nghymru, sef yr elusen aelodaeth ymbarél genedlaethol i gyrff ac unigolion o bob disgyblaeth a sector sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ac sy’n anelu at wireddu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru. Mae Plant yng Nghymru hefyd yn rheoli rhaglen Cymru Ifanc, sy’n darparu llwyfan i blant a phobl ifanc fynegi eu sylwadau’n uniongyrchol i’r llywodraeth. Mae hi wedi gweithio ym maes plant a phobl ifanc drwy gydol ei bywyd proffesiynol; roedd yn un o aelodau blaenllaw’r ymgyrch dros sefydlu’r Comisiynydd Plant cyntaf yn y Deyrnas Unedig a bu’n weithgar i hyrwyddo canolbwyntio ar frwydro yn erbyn tlodi plant yng Nghymru.

Mae wedi bod yn aelod o sawl gweithgor dan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae’r rhain yn cynnwys Fforwm Partneriaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, Grŵp Rhanddeiliaid Cwricwlwm i Gymru, Bwrdd Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, a Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant. Mae hi ar fwrdd Cymru Well hefyd. Ar lefel y Deyrnas Unedig roedd hi’n un o’r deg Comisiynydd ar Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU.
Mae Catriona yn gyd-gadeirydd Voices from Care Cymru ac mae hi wedi bod ar fwrdd sawl elusen fel y National Family and Parenting Institute a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Yn rhyngwladol, Catriona oedd Llywydd cyntaf Eurochild (2001-2010), y corff anllywodraethol ar draws Ewrop gyfan a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd gyda’r nod o weithio yn erbyn tlodi ac allgáu cymdeithasol i blant ledled Ewrop. Hi oedd Llywydd y Fforwm Rhyngwladol er Lles Plant 2008-2012 ac Is-lywydd Platfform Cymdeithasol Ewrop i Gyrff Anllywodraethol yn 2010-2012.