Barbara Cluer
Ymddeolodd Barbara yn 2013 wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa waith yn y sector gwirfoddol yn gweithio gyda phlant a theuluoedd. Mae Home-Start wedi bod yn rhan enfawr o’i bywyd ers iddi ymgymryd â rôl sefydlu a rheoli Home-Start Merton yn Ne Llundain ym 1993 lle arhosodd hyd ei hymddeoliad dros ugain mlynedd yn ddiweddarach. Ar ôl ymddeol symudodd hi a’i gŵr i dde Cymru. Ni fu’n hir cyn chwilio am Home-Start yng Nghymru ac yn 2014 ymunodd â Bwrdd Ymddiriedolwyr yr hen Home-Start Caerffili, gan wasanaethu fel Cadeirydd am y ddwy flynedd olaf, cyn ymuno â bwrdd Home-Start Cymru pan ddaeth i fodolaeth yn 2019.
Tra roedd yn Merton, a hithau wedi datblygu enw am fod yn arloesol a chreadigol yn ei gwaith, gwahoddwyd hi’n aml gan Home-Start UK i gyfrannu at ddatblygiad sawl prosiect a dull newydd o weithio. Uchafbwynt ei gyrfa yno oedd pan gafodd ei gwahodd gan Home-Start UK yn 2006 i gynrychioli’r elusen a siarad mewn cynhadledd yn Lithuania.
Daw Barbara â hanes hirfaith o fyw ac anadlu ethos Home-Start, a hithau wedi adnabod sylfaenydd Home-Start, Margaret Harrison, a mewnwelediad a dealltwriaeth ddofn o ochr weithredol gwaith y corff ochr yn ochr ag adeiladu gweledigaeth strategol. Gyda thros ugain mlynedd o brofiad rheoli prosiectau, mae Barbara’n falch o fod yn rhan o hyrwyddo dyfodol cyffrous i Home-Start yng Nghymru.
ResponsivePics errors
- image id is undefined