Beth yw Apêl Rhoddion Nadolig Home-Start Cymru?
Does yr un plentyn yn haeddu deffro heb anrheg ar ddydd Nadolig. Ond gallai hyn fod yn realiti i gynifer o deuluoedd sydd wedi cael eu gwthio i dlodi gan yr argyfwng costau byw. Wrth i rieni gael eu gorfodi i ddewis rhwng talu eu biliau ynni neu brynu bwyd, mae’r Nadolig yn foethusrwydd na all llawer ei fforddio. Eleni, mae angen ein Hapêl Rhoddion yn fwy nag erioed. Bob Nadolig, rydyn ni’n trefnu anrhegion i’w prynu, eu rhoi, eu didoli a’u dosbarthu i’n teuluoedd cymorth. Gyda chymorth sefydliadau, grwpiau ac unigolion yn union fel chi, gallwn achub y Nadolig! Rydyn ni i gyd yn wynebu gaeaf caletach eleni, ond rydyn ni’n gobeithio bod ysbryd y Nadolig yn dal yn fyw. Dewch i ni ddod at ein gilydd a chyflwyno hud y Nadolig i blant ledled Cymru.
Sut i Gefnogi ein Hapêl Rhodd:
Prynu Anrhegion Gallwch fynd allan i brynu eich anrhegion eich hun neu gallwch brynu anrhegion yn uniongyrchol o’n Rhestr Dymuniadau Amazon. Bydd y rhain yn cael eu danfon yn syth i’n prif swyddfa. Fel arall, gallwn weithio gyda chi i drefnu eu cludo i’r teuluoedd!
Cyfrannu i’n tudalen Just Giving: Efallai y bydd hi’n haws i chi roi’r arian rydych chi’n ei godi trwy Just Giving. Bydd yr arian yn cael ei wario ar brynu anrhegion, bwyd a chwrdd ag unrhyw anghenion ychwanegol ein teuluoedd cymorth yn ystod cyfnod y Nadolig. ;
Talebau Prynu: Gallwch hefyd brynu talebau a’u hanfon atom. Bydd y rhain wedyn yn cael eu dosbarthu i deuluoedd mewn angen, er mwyn iddynt brynu’r hyn sydd ei angen arnynt i wneud eu Dydd Nadolig yn hudolus.