Gan ddechrau yn y cartref, mae ein hymagwedd mor unigol â’r bobl rydyn ni’n eu helpu. Dim barn, dim ond cymorth a chefnogaeth dosturiol, cyfrinachol.

Mae ein staff hyfforddedig a gwirfoddolwyr yn ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi, gan gynnig cefnogaeth gyson, cymorth a chlust dosturiol.

Sut rydym yn cefnogi rhieni

Rydyn ni’n rhoi’r offer i rieni ymdopi â heriau bywyd a gwella eu lles. Gyda’n gilydd rydym yn:

  • cryfhau perthnasoedd
  • gwella iechyd corfforol ac emosiynol teuluoedd
  • cysylltu rhieni a’u teuluoedd â’r gymuned leol i sicrhau nad ydynt byth yn teimlo’n ynysig neu’n unig
  • helpu i leihau straen oherwydd gwrthdaro teuluol
  • archwilio manteision rhianta cadarnhaol.