Elusen Gymreig yn annog y cyhoedd i ledaenu rhywfaint o lawenydd i deuluoedd difreintiedig y tymor Nadolig hwn

Mae Home-Start Cymru wedi lansio Apêl Rhoddion Nadolig i blant, gyda neges atgoffa i’r cyhoedd y bydd pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth i deuluoedd difreintiedig yn eu cymuned y Nadolig hwn. 

Mae’r elusen genedlaethol Gymreig, gyda darpariaeth gwasanaeth hyper-leol ar lawr gwlad, wedi gweld galw cynyddol am ei gwasanaethau eleni, ac mae wedi darparu cefnogaeth newid bywyd i oddeutu 800 o deuluoedd a 2,000 o blant; gyda llawer o deuluoedd yn gofyn am gefnogaeth gyda phryderon ariannol, colli swyddi, neu deimlo’n llethol 

Dywedodd Jayne Drummond, Prif Swyddog Gweithredol Home-Start Cymru, y gallai pobl wneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymuned leol trwy roi y tymor Nadolig hwn. 

“Mae teuluoedd yn ei chael yn anodd iawn eleni oherwydd effaith y pandemig, yn ogystal â diwedd y cynllun ffyrlo, cael gwared ar y cynnydd Credyd Cynhwysol o £20 a phrisiau ynni uchel – rydym yn anffodus yn gweld cynnydd digynsail yn y galw am help.” 

O hyn tan 5 Rhagfyr, mae Home-Start Cymru yn annog pobl i gasglu rhoddion ariannol neu roi rhoddion i’r Apêl Rhoddion Nadoligaidd er mwyn sicrhau y gall pob teulu a gefnogir gael y llawenydd o agor anrheg ar Ddiwrnod Nadolig. 

Parhaodd, “Bydd y Nadolig yn frwydr i filoedd o deuluoedd ond rydym yn dal eisiau sicrhau bod pob plentyn sy’n cael ei gefnogi gan Home-Start Cymru yn deffro fore Nadolig gydag anrhegion yn aros amdanynt, a gyda’ch help chi byddwn yn gwneud popeth gallwn wneud i hyn ddigwydd. ” 

“Rydyn ni’n gofyn i chi brynu un anrheg ychwanegol yn unig i’n helpu ni i roi Nadolig mwy disglair i’n teuluoedd â chymorth. Rydym yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw amseroedd i lawer o deuluoedd ar hyn o bryd ac rydym yn diolch i chi i gyd ymlaen llaw am y ffordd ryfeddol rydych chi’n ymateb i’n Hapêl.” 

Gellir rhoi anrhegion i’r Apêl trwy ein rhestr ddymuniadau Amazon neu gellir trefnu pwyntiau gollwng yn uniongyrchol gyda chynrychiolydd Home-Start Cymru yn eich ardal chi. 

Os hoffech ddarganfod sut i gyfrannu’n uniongyrchol at Apêl Rhoddion y Tymhorau, cysylltwch â info@homestartcymru.org.uk gyda’r holl arian yn mynd tuag at roddion newydd i blant. Neu, os yw’ch busnes neu sefydliad yn dymuno cefnogi’r Apêl, cysylltwch â’r tîm ar info@homestartcymru.org.uk neu ffoniwch 07598 358916 i archwilio ffyrdd o gymryd rhan