Lansio Grŵp Trawsbleidiol newydd ar Les Tadau a Gwydnwch Teuluoedd
Yn dilyn cyhoeddi ein Maniffesto: Teuluoedd Cryf, Dyfodol Cryf, nodwyd lles tadau gennym fel un o bedwar maes allweddol lle mae teuluoedd, gwirfoddolwyr a phartneriaid wedi dweud wrthym fod angen mwy o sylw polisi. Drwy sgyrsiau gyda theuluoedd ac ymgysylltu ag ymgeiswyr y Senedd cyn etholiad 2026, clywsom yn gyson am y diffyg cymorth penodol i dadau a’r effaith y gall hyn ei chael ar les teuluoedd, perthnasoedd rhieni a chanlyniadau plant.
Mewn ymateb, mae Home-Start Cymru wedi cydweithio ag Aelodau o’r Senedd o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol i sefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol newydd ar Les Tadau a Gwydnwch Teuluoedd, a ni sy’n gweithredu fel ei ysgrifenyddiaeth. Mae’r grŵp yn dod â chynrychiolwyr o bedair plaid wleidyddol ynghyd ac yn darparu lle penodol i lunwyr polisi, ymarferwyr, ymchwilwyr a sefydliadau’r trydydd sector archwilio profiadau tadau, nodi bylchau yn y cymorth ac ystyried cyfleoedd i gryfhau polisi ac ymarfer.
Mae’r grŵp yn adlewyrchu ein cred nad yw cefnogi tadau yn fater ar wahân ond yn rhan bwysig o greu’r amodau ar gyfer teuluoedd cryf a chanlyniadau cadarnhaol i blant. Bydd trafodaethau’n ystyried sut y gall gwasanaethau ymgysylltu’n well â thadau, gwella dealltwriaeth o brofiadau tadau a sicrhau bod cymorth ar gael ar adegau allweddol ym mywyd teuluol, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar.
Drwy’r gwaith hwn, rydym yn gobeithio helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth gryfach, rhoi llwyfan i leisiau tadau a theuluoedd, ac annog mwy o gydweithio traws-sector ynghylch gwydnwch teuluoedd. Wrth i’r grŵp ddatblygu, bydd Home-Start Cymru yn parhau i ddod â chipolwg gan deuluoedd a gwasanaethau rheng flaen i’r trafodaethau, gan sicrhau bod sgyrsiau polisi yn parhau i fod wedi’u gwreiddio mewn profiadau go iawn ac yn canolbwyntio ar greu newid ystyrlon i blant a rhieni ledled Cymru.
Darllenwch fwy: Grŵp Trawsbleidiol ar Les Tadau a Gwydnwch Teuluoedd
I gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych ymholiadau ynglŷn ag aelodaeth, cysylltwch ag Izzabella James, ijames@homestartcymru.org.uk

