Dydy cyfnodau anodd ddim yn dod i ben adeg y Nadolig
Mae’r Nadolig i fod yn hudolus, ond nid yw pob teulu’n cael y Nadolig maen nhw’n ei weld ar y teledu neu’n clywed amdano yn yr ysgol. Eleni, mae Home-Start Cymru yn gofyn i chi helpu rhieni sy’n gwneud popeth o fewn eu gallu i’w plant wrth fynd trwy gyfnod anodd.
A dydy cyfnodau anodd ddim yn dod i ben pan fydd y Nadolig drosodd. Bob blwyddyn, mae Home-Start Cymru yn cefnogi [nifer] o blant a theuluoedd ledled Cymru, ac ar hyn o bryd mae teuluoedd yn aros am ein cymorth. Gyda mwy o wirfoddolwyr, gallwn gyrraedd hyd yn oed mwy, gydol y flwyddyn.
Gwyliwch ein ffilm Nadolig
Mae ein ffilm, “In a line to see Santa”, yn dilyn tri phlentyn yn aros i gwrdd â Siôn Corn, pob un yn dal llaw rhiant cariadus. Wrth iddynt aros, rydym yn clywed straeon eu rhieni, wedi’u hysbrydoli gan deuluoedd go iawn a gefnogir gan Home-Start. Nid yw pob eiliad Nadolig yn hudolus, a dyna pam rydym ni yma.
Sut allwch chi helpu
Gwirfoddoli. Rhowch gwpl o oriau’r wythnos i gefnogi teulu yn eich cymuned, adeg y Nadolig a gydol y flwyddyn. Does dim angen cymwysterau proffesiynol arnoch, dim ond parodrwydd i wrando, ac rydym yn darparu hyfforddiant llawn a chymorth parhaus. [Dod yn wirfoddolwr: www.homestartcymru.org.uk/volunteertoday]
Rhoi. Mae eich rhodd yn helpu ein gwirfoddolwyr a’n staff hyfforddedig i fod yno i fwy o blant a theuluoedd ledled Cymru. [Os cytunir ar rodd gyfatebol: Bydd pob rhodd a wneir cyn DYDDIAD yn cael ei dyblu gan PARTNER.] [Rhoi nawr: dolen rhoi]
Rhannu. Rhannwch ein ffilm a dywedwch wrth bobl pam rydych chi’n cefnogi Home-Start Cymru, fel y gall mwy o deuluoedd a gwirfoddolwyr ddod o hyd i ni.
Y gwahaniaeth rydym yn ei wneud
Bob blwyddyn, rydym yn cefnogi [nifer] o blant a theuluoedd ledled Cymru. O’n Hadroddiad Effaith 2025/2026:
- 87% gwell gallu i ymdopi â heriau o ddydd i ddydd
- 83% mwy o hyder wrth reoli cyllideb y cartref
- 72% o rieni yn teimlo’n fwy cysylltiedig â rhwydweithiau cymunedol
Angen cymorth y Nadolig hwn?
Mae pob teulu’n mynd trwy gyfnodau anodd, a does dim rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun. Cysylltwch â ni i weld sut efallai y gallwn eich helpu: info@homestartcymru.org.uk neu 0333 880 0014.