Y Cynghorydd Sheryl Evans, un o wirfoddolwr Home-Start Cymru, wedi’i phenodi’n Faer newydd Rhondda Cynon Taf, yn hyrwyddo cefnogaeth gymunedol.
Mae Maer newydd Rhondda Cynon Taf (RhCT), Sheryl Evans, yn atgyfnerthu ei hymrwymiad i wasanaeth cymunedol a gwirfoddoli. Ar ôl byw yn RhCT drwy gydol ei hoes, dim ond ychydig strydoedd i ffwrdd o’r man lle cafodd ei geni, mae hi nawr yn dod â chyfoeth o brofiad ym maes y gyfraith, y GIG, a gwasanaeth cyhoeddus i’w rôl fel maer.
Dechreuodd ei thaith i wasanaeth cyhoeddus trwy gysylltu â phobl ar lawr gwlad, mynychu cyfarfodydd lleol a gweithio’n agos gyda’r gymuned. “Mae gwirfoddoli wedi bod yn gonglfaen i’m bywyd erioed. Dyna le dechreuais i, ac mae’n parhau i ddylanwadu ar fy safbwynt i fel Maer,” meddai. Mae ei hymroddiad hi wedi’i galluogi i wasanaethu fel cynghorydd am dros ddegawd, yn ogystal ag ymgymryd â swyddi fel Dirprwy Faer a nawr yn Faer.
Cafodd ei hangerdd dros wirfoddoli ei danio pan gafodd ei chyflwyno i Home-Start Cymru gan ffrind. Dyma elusen sy’n cefnogi teuluoedd â phlant ifanc. “Roedd gen i ddigon o amser hamdden, ac ar ôl dysgu ynglŷn â’r elusen, penderfynais wneud cais. Cefais fy nerbyn a chefnogais ddau deulu, gan adeiladu perthnasoedd sy’n parhau hyd heddiw,” eglurodd. Yn rhan o’i rôl, roedd Sheryl yn helpu plant i ennill hyder, darparu cefnogaeth emosiynol, a’n meithrin ymdeimlad o gysylltiad o fewn y gymuned.
Fel Maer, mae hi’n awyddus i hyrwyddo mentrau gwirfoddol ledled RhCT. Pwysleisiodd, “Rwyf am efelychu prosiectau cymunedol llwyddiannus yn fy ward fy hun, er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae gwirfoddoli yn hynod wobrwyol, ac rwy’n annog pawb i gymryd rhan.”
Yn gwneud ei thaith fel maer yn fwyfwy arbennig, mae ei merch yn gwasanaethu fel ei chydymaith, sy’n gwneud y rôl hon yn fater teuluol gwirioneddol. Gyda gweledigaeth gref ar gyfer RhCT, mae’r Maer yn anelu at ehangu ymgysylltiad gwirfoddolwyr a gwella rhwydweithiau cymorth cymunedol, gan sicrhau nad oes unrhyw drigolion yn teimlo eu bod nhw ar eu pen eu hunain yn eu trafferthion.