Ein partneriaeth â Wales and West Utilities 

Mae Home-Start Cymru yn treialu model partneriaeth er mwyn helpu lleddfu caledi ariannol i deuluoedd Cymru

Mae’r elusen Gymreig, Home-Start Cymru (HSC), yn treialu model gwasanaeth integredig sy’n cysylltu â sefydliadau cymunedol a thrydydd sector, er mwyn sicrhau bod teuluoedd ledled Cymru yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt cyn bod eu problemau’n gwaethygu.

Gyda bron i draean o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi – y gyfradd uchaf ymhlith gwledydd datganoledig y DU – bydd model newydd HSC yn mynd i’r afael â materion allweddol, gan gynnwys tlodi tanwyddiechyd meddwl rhieni a lles teuluoedd, tra hefyd yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch carbon monocsid.

Mae Home-Start Cymru, elusen annibynnol Gymreig gyda dros 20 mlynedd o brofiad, yn treialu’r gwasanaeth ar ôl derbyn bron i £50k o gyllid gan y gwasanaeth argyfwng nwy a phib linellau, Wales & West Utilities, bydd y gwasanaeth, a gynigir yn ddwyieithog, yn targedu cefnogaeth i deuluoedd bregus sy’n aml yn cynnwys rhieni ifanc neu sengl, a phlant ifanc.

Bydd y dull partneriaeth yn helpu HSC i ddod o hyd i deuluoedd bregus, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth gyfannol. Ar ôl atgyfeirio, bydd teuluoedd yn cael asesiad cychwynnol yn seiliedig ar anghenion gan un o staff HSC, neu un o’r 180 o wirfoddolwyr cymunedol, i nodi unrhyw heriau a chamau gweithredu. Yna bydd Cynllun Gweithredu Cymorth i Deuluoedd yn cael ei ddatblygu, gan gynnwys canlyniadau targed i’r teulu weithio tuag atynt yn ystod yr ymyrraeth.

Trwy’r cyfnod treialu, bydd HSC yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, corfforaethau, a sefydliadau trydydd sector ledled Cymru, tra hefyd yn ysgogi partneriaethau anffurfiol gyda sefydliadau fel Citizens Advice Bureau, Save the Children, Barnardo’s, Shelter Cymru, a Mind. Yn ogystal, byddant yn ymgysylltu â chlinigau cyn-geni, ysgolion a llyfrgelloedd.

Esbonia Jayne Drummond, Prif Swyddog Gweithredol Home-Start Cymru, isod:

“Mae Home-Start Cymru yn cefnogi rhai o deuluoedd mwyaf bregus Cymru sy’n wynebu tlodi a heriau iechyd a llesiant sylweddol.

“Mae tlodi plant wedi’i nodi fel y mater mwyaf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru. Mae’r cyllid hwn, a gefnogir yn garedig drwy’r bartneriaeth, yn ein galluogi i fabwysiadu dull integredig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ddarparu cymorth gartref a thrwy sianeli hygyrch, megis cymorth rhithwir a thrwy Sesiynau Grŵp mewn Hybiau Cymunedol ledled Cymru. Ein nod yw grymuso teuluoedd er mwyn gwella sicrwydd ariannol a gwytnwch.”

Yn ystod y cyfnod treialu, nod HSC yw cefnogi 340 o deuluoedd (782 unigolyn) gyda buddion mantola incwm, gwybodaeth am garbon monocsid a PSR, a gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni, ymhlith meysydd eraill. Nod HSC yw darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol sy’n helpu teuluoedd i oresgyn heriau cymhleth, megis brwydrau iechyd meddwl, ansicrwydd ariannol, ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Dywedodd Sophie Shorney, Rheolwr VCMA Wales & West Utilities:

“Bydd y cyllid hwn yn galluogi HSC, a’i rwydwaith helaeth o bartneriaethau, i fynd at galon y teuluoedd yng Nghymru sydd angen cymorth fwyaf.

“The VCMA fund allows us to work in partnership with organisations, like HSC, to reach more people and provide them with the help they need to ensure they receive the right support and help with their bills, to help keep them safe and warm in their own environment.”

“Mae’r gronfa VCMA yn ein galluogi i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau, fel HSC, i gyrraedd mwy o bobl a darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth gywir a chymorth gyda’u biliau, i helpu i’w cadw’n ddiogel a’n gynnes yn eu hamgylchedd eu hunain.”

Mae Wales & West Utilities, y gwasanaeth brys nwy a phib linellau, yn dod ag ynni i 7.5 miliwn o bobl ar draws de-orllewin Lloegr a Chymru. Os ydych chi’n arogli nwy, neu’n amau ​​presenoldeb carbon monocsid, ffoniwch nhw ar 0800 111 999 ar unwaith, a bydd eu peirianwyr yno i helpu unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.

ResponsivePics errors
  • image id is undefined