Cyhoeddi Adroddiad Treialu Barod i Ddysgu, Barod i Dyfu
Mae gwerthusiad o’n prosiect Barod i Ddysgu, Barod i Dyfu yng Ngwent wedi’i gyhoeddi. Rhwng Tachwedd 2025 a Mawrth 2026, bu ein staff a’n gwirfoddolwyr yn cefnogi 32 o deuluoedd a 36 o blant rhwng 18 mis a 3 oed i fod yn barod ar gyfer yr ysgol, gyda chyllid gan Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau Llywodraeth Cymru. Canfu’r gwerthusiad fod llawer o blant wedi dangos gwelliannau mesuradwy yn y sgiliau sy’n gysylltiedig â pharodrwydd ar gyfer yr ysgol. Canfu hefyd fod rhieni ac ymarferwyr yn meddwl am barodrwydd ar gyfer yr ysgol mewn ffyrdd gwahanol, gyda theuluoedd yn sôn fwyaf am wneud ffrindiau a theimlo’n hapus, ac ymarferwyr yn canolbwyntio ar leferydd, iaith a defnyddio’r toiled.
Home-Start Cymru yn helpu i lunio trafodaethau ar barodrwydd ar gyfer yr ysgol
Yn dilyn cyhoeddi gwerthusiad Barod i Ddysgu, Barod i Dyfu, mae Home-Start Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector blynyddoedd cynnar i archwilio’r camau nesaf ar gyfer datblygu ymarfer a newid polisi. Nododd y prosiect gyfleoedd i feithrin mwy o gytundeb ynglŷn â beth mae ‘parodrwydd ar gyfer yr ysgol’ yn ei olygu ac a yw’n derm cynrychioliadol, cryfhau cymorth ar gyfer datblygiad cynnar plant a mynd i’r afael â’r rhwystrau a achosir gan dlodi. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid ym meysydd iechyd, llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol i sicrhau bod y dysgu yn llywio ymarfer yn y dyfodol.
Darllenwch yr adroddiad gwerthuso isod, neu gallwch hefyd weld y crynodeb sy’n addas i blant, sy’n nodi saith addewid i helpu pob plentyn i gael dechrau gwych yn yr ysgol.