Grym Cyfeillgarwch: Adeiladu Cysylltiadau Cryfach ar gyfer Bywydau Hapusach
Yn Home-Start Cymru, rydyn ni’n credu yng ngrym cyfeillgarwch a chysylltiadau dynol. Mewn byd lle mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn cynyddu, mae magu perthnasau cryf yn allweddol — nid yn unig ar gyfer llesiant emosiynol, ond hefyd ar gyfer teuluoedd hapusach a mwy iach.
Pam mae Cysylltiad yn Bwysig
Mae ymchwil yn dangos yn glir: mae pobl sydd â chysylltiadau cymdeithasol cryf yn fwy tebygol o fwynhau iechyd meddwl gwell, gwydnwch cryfach, a hyd yn oed bywyd hirach. I rieni sy’n wynebu cyfnodau anodd, gall wyneb cyfeillgar a rhywun i wrando wneud pob gwahaniaeth.
Mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig cefnogaeth dosturiol, ddi-farn ac yn helpu rhieni i ailddarganfod eu hyder. Mae’r berthynas yma’n aml yn troi’n gyfeillgarwch go iawn — un sy’n dod yn achubiaeth mewn cyfnodau anodd.
O Unigrwydd i Gysylltiad
Un o rannau mwyaf pwerus ein gwaith yw sut rydyn ni’n helpu i leihau unigrwydd. Yn 2024–25, cafodd 446 o deuluoedd eu cyfeirio atom ni oherwydd unigrwydd, ac roedd 84% ohonyn nhw’n dweud eu bod wedi datblygu ffordd well o ymdopi. Mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig cwmnïaeth ystyrlon — efallai paned o de, taith i grŵp babanod, neu sgwrs dawel dros y bwrdd.
“Cyn Home-Start, doedd dim neb gen i. Daeth fy ngwirfoddolwr yn ffrind go iawn — rhywun ro’n i’n gallu ymddiried ynddo, siarad â nhw a chwerthin eto.” – Rhiant, Caerdydd
Cyfeillgarwch fel Sylfaen Gwydnwch
Mae cyfeillgarwch yn adeiladu gwydnwch emosiynol. Yn 2024–25, dywedodd 80% o deuluoedd eu bod yn teimlo’n fwy gwydn, ac roedd 78% wedi datblygu hunan-barch gwell. Pan fydd teuluoedd yn teimlo’n gefnogol, maen nhw’n gallu ymdopi’n well â straen, sefydlu trefn, ac ymgysylltu’n well gyda’u plant.
Mae cyfeillgarwch hefyd yn dangos i blant sut i feithrin perthnasau iach — gan gryfhau hyder, sgiliau cymdeithasol, a lles emosiynol.
Rydyn ni wedi gweld dro ar ôl tro sut mae cysylltiadau go iawn yn gallu helpu teuluoedd i godi o argyfwng ac ailgydio yn eu bywydau gyda hyder.
Sut Allwch Chi Helpu
Rydyn ni bob amser yn chwilio am bobl sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned. Os ydych chi’n dosturiol, yn ddibynadwy ac yn medru rhoi ychydig oriau’r wythnos, gall gwirfoddoli gyda Home-Start Cymru fod yn gam gwerth chweil. Rydych chi’n cael hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus — ac mae’r cyfeillgarwch rydych chi’n helpu i’w greu yn gallu para am oes.
Dewch i’n Helpu i Gryfhau Cymunedau
Yn Home-Start Cymru, rydyn ni’n gwybod bod teuluoedd cryf yn creu cymunedau cryf, ac mae’r cymunedau hynny’n cael eu seilio ar garedigrwydd, cysylltiad a chyfeillgarwch.
Dysgwch fwy am sut i gefnogi ein gwaith neu i gyfeirio teulu sydd angen help ar ein gwefan.
ResponsivePics errors
- image id is undefined